Urdd Ynys Môn
13, Llys Castan, Parc Menai, Bangor, Gwynedd,
Caernarfon
,
Mae Urdd Gobaith Cymru yn fudiad cyffrous a deinamig i blant a phobl ifanc. Mae’n darparu amrywiaeth o weithgareddau ar draws Cymru gyfan. Mae swyddogion datblygu yn gweithio ym mhob ardal er mwyn sicrhau bod rhaglen lawn o weithgareddau yn cael ei chynnig i blant a phobl ifanc
Sefydlwyd yr Urdd ym 1922 i roi cyfle i blant a phobl ifanc i ddysgu ac i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’n rhoi cyfle i ieuenctid Cymru i fyw bywydau byrlymus trwy gyfrwng y Gymraeg gan ddysgu parchu ei gilydd a phobloedd y byd.
Mae’n croesawu siaradwyr Cymraeg a dysgwyr.
Pwy sy’n aelodau o’r Urdd?
Mae 50,000 o blant a phobl ifanc Cymru yn aelodau o’r Urdd.
Mae un rhan o dair o’r holl siaradwyr Cymraeg rhwng 8 ac 18 yn aelodau.
Mae 30% o’r holl aelodau yn dweud eu bod yn ddysgwyr
Mae dros 3,000 o’r aelodau rhwng 16 a 25 mlwydd oed.
Enwau cyfarwydd a fu gynt yn aelodau o’r Urdd yw Huw Edwards, y darllenydd newyddion, Bryn Terfel, y canwr byd enwog, a Glyn Wise o’r gyfres Big Brother!
Mae gan y mudiad 10,000 o wirfoddolwyr sy’n weithgar dros ben mewn 900 o ganghennau ledled y wlad.
Beth sydd gan yr Urdd i’w gynnig i ti...
Yn dy ardal di...
Mae tîm o staff yn bugeilio 300 o adrannau ac aelwydydd cymunedol.
Cynhelir clybiau wythnosol, cystadlaethau, chwaraeon, teithiau tramor a theithiau i’r gwersylloedd.
Yn y gwersylloedd....
Pob math o weithgaredd o hwylio, canwio a dringo yng Nglan-llyn, i wibgartio, sgïo a merlota yn Llangrannog, neu ymweliad â Stadiwm y Mileniwm neu’r theatr yng Nghaerdydd
Rhywbeth at ddant bawb!
Ar y maes chwarae...
Rygbi, nofio, pêl-droed, gymnasteg, athletau... mae’r dewis yn ddiddiwedd!
Cyfle i gystadlu yn erbyn plant a phobl ifanc ar hyd ac ar led Cymru
Clybiau wythnosol a chyrsiau chwaraeon
Ar lwyfan yr Eisteddfod..
Gwyl gystadleuol fwyaf Ewrop i ieuenctid yw hon
Cystadlaethau canu, dawnsio, actio, perfformio, celf a chrefft, barddoni
Mae 15,000 yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd bob blwyddyn.
Yn y cylchgronau...
Beth am ddarllen y straeon diddorol neu roi cynnig ar y cystadlaethau sydd yn Cip, iaw! a Bore Da?
Mae cylchgronau ar gyfer dysgwyr a Chymry Cymraeg
Mae 10,000 o gylchgronau yn cyrraedd ysgolion a chartrefi plant Cymru bob mis.
Trwy waith dyngarol...
Yr Urdd sydd wedi bod yn cyhoeddi Neges Heddwch ac Ewyllys Da Plant Cymru i’r Byd ers 1925.
Beth am fynd dramor gyda’r Urdd i wneud gwaith gwirfoddol?
Darganfyddwch ddiwylliannau eraill a chyfarfod plant a phobl ifanc o wledydd ar draws y byd.